
Roedd Ryan a Ronnie
yn ffenomenon
adloniant yn
ystod yr 1960au
hwyr a’r 70au cynnar i lefel
nas cyflawnwyd gynt nac ers
hynny yng Nghymru. Tyfodd
yr hyn a ddechreuodd fel
arbrawf teledu syml ym 1968 i
gyfuno sgiliau adloniant Ryan ag
arbenigedd actio a darlledu Ronnie i lefel a’u
synnodd nhw eu hunain hyd yn oed.
Derbyniwyd eu ffurf unigryw o adloniant
comedi ar bob lefel â breichiau agored ar
draws Cymru (ac ar draws Ynysoedd
Prydain, drwy eu cyfres ar BBC1).
Nid oedd gan Gymru enw fel ‘magwrfa
gomedi’ ac, felly, roedd ymgeisio unrhyw
fath o gomedi yn risg; gall ffocysu ar act
gomedi ddwbl a’i rhoi yn syth ar y teledu fod
yn derfyn gyrfa! Ond roedd eu brand hynod
o hiwmor Cymreig yn llwyddiant yn syth ac
roedd eu cyflawniadau dros y chwe blynedd
nesaf yn eithriadol.
Yr hyn a oedd yn eithaf rhyfedd am y
ffenomenon oedd nad oeddent fel petaent
wedi bwrw eu prentisiaeth gomedi yn y dull
traddodiadol o deithio diddiwedd - bu’n
achos o ‘syth i mewn i’r pen dwfn’ i’r ddau
ohonynt.
Yn ogystal ni wnaethant gyfyngu eu
hunain i ‘ddiogelwch’ y stiwdios
teledu. Mewn sawl ffordd
roeddent hyd yn oed yn fwy
llwyddiannus o flaen cynulleidfa
fyw, boed mewn theatr, lleoliad
cabare, neuadd gyngerdd, amryw
o Eisteddfodau a hyd yn oed ‘pen y
pier’ yn Blackpool! Ac i osod y sêl ar
eu hunigrywiaeth cawson nhw lwyddiant
mewn dwy iaith. wnaethant, mewn
gwirionedd, fwy i leihau’r ‘rhaniad’ rhwng
siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg nag
unrhyw artist arall.
Yn ystod cyfnod cynnar eu gyrfa, gwnaethant
gyfres o recordiadau i Recordiau’r
Dryw a’u rhyddhau fel E.P.’s (I’r
rhai ohonoch sy’n rhy ifanc i
ddeall, gofynnwch i aelod hyn
o’r teulu!)
Ar y CD deyrnged yma ceir
casgliad o gerddoriaeth (caneuon
pobl eraill a rhai o gyfansoddiadau
enwog Ryan) a chomedi Ryan a Ronnie.
Ceir perfformiadau gan gast cynhaliol a oedd
yn bwysig iawn i Ryan a Ronnie (a hwy oll, yn
drist, dim gyda ni bellach). Mae ymateb y
cynulleidfaoedd byw i’w comedi yn arwydd
o’r effaith a gawsant bryd hynny.
Mae’r ystadegau yn dystiolaeth o’u
llwyddiant:
3 CYFRES DELEDU GYMRAEG
(BBC CYMRU)
3 CYFRES DELEDU RHWYDWAITH
SAESNEG (BBC1)
600+ O BERFFORMIADAU CABARE
400+ CYNGERDD
3 PHANTOMEIM –
THEATR Y GRAND ABERTAWE
(Y Pantomeim oedd yn rhedeg hiraf ym Mhrydain – Gwyl San Steffan tan 31 Mawrth. Yn hirach hyd
yn oed na Phantomeim Paladiwm Llundain)
300 perfformiad o flaen 1/2 miliwn o bobl.
Daeth y bartneriaeth i ben yn sydyn ym 1974
pan orfodwyd Ronnie i orffen oherwydd
iselder ysbryd difrifol. Er i Ronnie gynnal ei
gysylltiadau â’r busnes adloniant am nifer o
flynyddoedd wedi hynny, parhaodd ei salwch
a daeth ei yrfa i ben. Cafodd ei gamddeall
gan lawer ac yn drist iawn bu farw ym 1997.
Er yr ystyriwyd Ronnie yn gyffredinol fel ‘y dyn
syth’, ni ddylid tanbrisio’i gyfraniad.
Parhaodd Ryan ar ei liwt ei hun am dair
blynedd arall gan ychwanegu cyfres deledu
Gymraeg a dau bantomeim llwyddiannus
pellach yn ogystal â pherfformiadau cabare
di-rif. Ond yn drist iawn bu farw’n sydyn tra
ar wyliau yn yr Unol Daleithiau ym 1977.
O ystyried bod y ddau artist wedi cyfrannu
cymaint i adloniant Cymraeg a Chymreig,
dros gyfnod mor fyr, gan roi cymaint o bleser
i gynifer o bobl ac yna i gael eu cymryd oddi
wrthym mor ifanc - roedd eu bywydau yn wir
yn haeddu gwell.
O leiaf gyda’r recordiadau hyn, gallwn
fwynhau’r RYAN A RONNIE go iawn.
|