CYMANFA GANU UNDEBOL
Arweinydd Gwadd:
RYAN DAVIES
Mae'r Gymanfa a'r recordiad dilynol wedi
bod yn gyfrifol am godi arian tuag at elusen.
Trefnwyd a chydlynwyd y Gymanfa gan
Ronw James, Caerfyrddin.
Cadeirydd y Gymanfa - J. Ronald Jones,
Ysw., CVO, QPM
Cynhaliwyd y Gymanfa ar ddydd Sul 21
Hydref 1976 a'i recordio gan Ken Davies.
Adlewyrcha'r CD hwn enghraifft
arall o dalentau niferus ac
amrywiol Ryan. Am unwaith mae
Ryan yn gadael i'r gynulleidfa fod yn
berfformwyr, ond yn eu hatgoffa mai
ef sydd wrth y llyw! Mae recordiad
o achlysur mor gofiadwy yn gadael
i ni fwynhau'r emynau mawrion
Cymreig a berfformiwyd yn y
Gymanfa draddodiadol hon ac i
ryfeddu at enhraifft arall o
amrywiol ddoniau Ryan. O fewn ychydig
fisoedd i'r digwyddiad hwn, ymgymerodd â'r
daith dyngedfennol honno i U.D.A.
AC YN OLAF …
Down yn awr i'r bedwaredd ddisg yn y gyfres o waith helaeth Ryan.
Mae enw Ryan yn aros yn ein cof bellach fel un o ddiddanwyr
mawr Cymru, a bydd ei enw wastad yn gyfystyr â'r gair
'amryddawn'.
Er mwyn cadarnhau'r ffaith hon, ac i brofi pa mor hynod yr oedd
Ryan mewn gwirionedd, dychmygwch sgwrs ag ymwelydd i Gymru
wrth i chi amlinelli buddiannau byw yn y wlad. Pan ddowch i
esbonio tipyn am ein hadloniant - byddwch yn sôn am ddiddanwr
talentog dros ben a oedd yn gomig gwych. Yna rydych yn
ychwanegu iddo fod yn gantor a chyfansoddwr hynod o dalentog,
a allai actio hefyd (yn ddigrif ac yn ddifrifol), heb anghofio, wrth
gwrs, ei fod yn gallu canu'r piano, yr organ a'r delyn. Yr oedd
hefyd yn rhan o ddeuawd gomedi boblogaidd iawn â'u cyfres
deledu Gymraeg a theledu cenedlaethol eu hunain. Roedd hefyd
yn seren pantomeimiau a fu'n rhedeg dros gyfnodau hir o amser.
Hyn oll mewn cyfnod o ond chwe blynedd.
Erbyn hyn, bydd yr ymwelydd wedi colli'i amynedd yn llwyr ac yn
dweud mewn anghrediniaeth: “A paid a dweud, roedd e'n rhedeg
yr ysgol Sul ar ei ddyddiau rhydd ………..!”
Dyma'n arwain yn briodol at y record hon…. Yn arwain y ffurf
draddodiadol Gymraeg o addoli, y Gymanfa Ganu! Fel y CD hwn,
wedi'i gynhyrchu er lles elusen, cynhaliwyd y Gymanfa yng
Nghapel Heol Awst, Caerfyrddin, fis Tachwedd 1976 - dim ond 5
mis cyn ei farwolaeth. Trwy'r recordiad hwn ceir goleuni pellach
ar y diddanwr a fyddai'n well ganddo guddio y tu ôl i gymeriad
comig. Yma mae'n agored i bawb gael ei weld a'i glywed.
Mae ei 'berfformiad' yn oleuedig dros ben - defnyddia ei brofiadau
personol o addoli ar hyd y blynyddoedd, o'i ddewis emynau i'r
ffordd y mae'n rheoli'r gynulleidfa ac yn annog dyrchafiad
ysbrydol, yn ogystal â cherddorol. Mwynhawyd talentau Ryan fel
'digrifwr' gan lawer, ond adlewyrcha'r recordiad hwn natur fwy
difrifol ei gymeriad gan ychwanegu goleuni pellach ar ei
bersonoliaeth.
I'r nifer breintiedig a oedd yn y Capel y dydd Sul hwnnw,
darparwyd noson i'w chofio. I ni'r gwrandawyr, gallwn barhau i
ryfeddu at ei dalentau unigryw dros 30 blynedd yn ddiweddarach.
M. D. Evans